Picture Post Card Posted From Post Box Pictured, 2014 - JONATHAN MONK

MOSTYN
£40.00
| /
Wedi’i lofnodi, argraffiad diderfyn

Mae gwaith Jonathan Monk yn ymestyn i’r gorffennol, gan edrych yn arbennig ar strategaethau artistiaid sy’n gysylltiedig â gwreiddiau celf Gysyniadol a Minimaliaeth. Mae’n mabwysiadu iaith y ddwy genre yma o gelf; mae’n britho ei waith â chyfeiriadau at ei hanes personol, ei deulu a’i fywgraffiad, yn ogystal â straeon bob dydd.

Y teitl yw Picture Post Card Posted From Post Box Pictured, ac mae’r gwaith hwn gan Jonathan Monk, yr artist o Brydain sy’n byw yn Berlin, yn rhan o gyfres o gardiau post sy’n cynnwys y rhai sydd wedi’u gwneud ar gyfer lleoliadau yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel a Pharis. Mae pob fersiwn yn y gyfres yn cynnwys llun o’r blwch post agosaf i’r oriel, y sefydliad neu’r siop lyfrau y mae wedi’i gynhyrchu ar ei gyfer.

Mae’r fersiwn yma wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer MOSTYN ac mae’n cynnwys y blwch post y tu allan i’r oriel. Ar ôl prynu’r cerdyn post, bydd yr artist yn ysgrifennu’r cyfeiriad a’r neges o ddewis y prynwr, ynghyd â’i lofnod. Wedyn bydd y cerdyn post yn cael ei bostio o’r blwch postio sydd yn y llun ar y cerdyn post. Yn achos MOSTYN, mae hwn y tu allan i’r hen swyddfa bost y drws nesaf i’r oriel.

Maint
10cm x 15cm

Deunydd
Cerdyn post wedi'i argraffu

Cynhyrchwyd gan Jonathan Monk