Terms of service

TROSOLWG
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan MOSTYN. Trwy gydol y wefan, mae'r termau “ni” ac “ein” yn cyfeirio at MOSTYN. Mae MOSTYN yn cynnig y wefan hon, gan gynnwys yr holl wybodaeth, offer a gwasanaethau ac eitemau sydd ar gael o'r wefan hon i chi, y defnyddiwr, yn amodol ar eich bod yn derbyn yr holl delerau, amodau, polisïau a hysbysiadau a nodir yma.

Trwy ymweld â'n gwefan ni a / neu brynu rhywbeth gennyn ni, rydych chi'n cymryd rhan yn ein 'Gwasanaeth' ac yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr amodau a thelerau canlynol (“Telerau Gwasanaeth”, “Telerau”), gan gynnwys y telerau ac amodau a pholisïau ychwanegol hynny y cyfeirir atynt yma a/neu ar gael trwy hypergyswllt. Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y wefan, gan gynnwys heb gyfyngiad defnyddwyr sy'n borwyr, gwerthwyr, cwsmeriaid, masnachwyr a/neu gyfranwyr cynnwys.

Darllenwch y Telerau Gwasanaeth hyn yn ofalus os gwelwch yn dda cyn cyrchu neu ddefnyddio ein gwefan. Trwy gyrchu neu ddefnyddio unrhyw ran o'r wefan, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau Gwasanaeth hyn. Os na chytunwch â holl delerau ac amodau'r cytundeb hwn, yna ni chewch gyrchu'r wefan na defnyddio unrhyw wasanaethau. Os ystyrir bod y Telerau Gwasanaeth hyn yn gynnig, mae eu derbyn yn gyfyngedig yn benodol i'r Telerau Gwasanaeth hyn.

Bydd unrhyw nodweddion neu offer newydd sy'n cael eu hychwanegu at y siop gyfredol hefyd yn amodol ar y Telerau Gwasanaeth. Gallwch adolygu'r fersiwn fwyaf cyfredol o'r Telerau Gwasanaeth ar unrhyw adeg ar y dudalen hon. Rydyn ni yn cadw'r hawl i ddiweddaru, newid neu amnewid unrhyw ran o'r Telerau Gwasanaeth hyn trwy bostio diweddariadau a/neu newidiadau i'n gwefan. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd am newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'r wefan neu fynediad iddi ar ôl postio unrhyw newidiadau yn golygu derbyn y newidiadau hynny.

Mae ein siop yn cael ei chynnal ar Shopify Inc. Maen nhw'n darparu'r platfform e-fasnach ar-lein i ni sy'n caniatáu i ni werthu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau i chi.

ADRAN 1 - TELERAU SIOP AR-LEIN
Trwy gytuno i'r Telerau Gwasanaeth hyn, rydych chi'n cynrychioli eich bod chi o leiaf yn llawn oed yn eich gwlad, eich gwladwriaeth neu'ch talaith breswyl, neu rydych chi yn llawn oed yn eich gwlad, eich gwladwriaeth neu'ch talaith breswyl a'ch bod chi wedi rhoi eich caniatâd i ganiatáu i unrhyw un o'ch plant dan oed yr ydych yn ddibynnol amdanynt ddefnyddio'r wefan hon.
Ni chewch ddefnyddio ein cynnyrch at unrhyw bwrpas anghyfreithlon neu anawdurdodedig ac ni allwch, wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth, dorri unrhyw ddeddfau yn eich awdurdodaeth (gan gynnwys deddfau hawlfraint ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).
Rhaid i chi beidio â throsglwyddo unrhyw fwydod neu firysau nac unrhyw god o natur ddinistriol.
Bydd torri neu gam yn erbyn unrhyw un o'r Telerau yn arwain at derfynu'ch Gwasanaethau ar unwaith.

ADRAN 2 - AMODAU CYFFREDINOL
Rydyn ni yn cadw'r hawl i wrthod gwasanaeth i unrhyw un am unrhyw reswm ar unrhyw adeg.
Rydych chi'n deall y gall eich cynnwys (heb gynnwys gwybodaeth cerdyn credyd) gael ei drosglwyddo heb ei amgryptio ac yn cynnwys (a) trosglwyddiadau dros rwydweithiau amrywiol; a (b) newidiadau i gydymffurfio ac addasu i ofynion technegol rhwydweithiau cysylltu neu ddyfeisiau. Mae gwybodaeth cardiau credyd bob amser yn cael ei hamgryptio wrth drosglwyddo dros rwydweithiau.
Rydych yn cytuno i beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu ecsbloetio unrhyw ran o'r Gwasanaeth, defnyddio'r Gwasanaeth, neu fynediad i'r Gwasanaeth neu unrhyw gyswllt ar y wefan y darperir y gwasanaeth drwyddo, heb ganiatâd ysgrifenedig penodol gennyn ni.
Mae'r penawdau a ddefnyddir yn y cytundeb hwn wedi'u cynnwys er cyfleustra yn unig ac ni fyddant yn cyfyngu nac yn effeithio ar y Telerau hyn fel arall.

ADRAN 3 - CYWIRDEB, CYFLAWNRWYDD A PHRYDLONDEB GWYBODAETH
Nid ydyn ni yn gyfrifol os nad yw'r wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfredol. Darperir y deunydd ar y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni ddylid dibynnu arno na'i ddefnyddio fel yr unig sail ar gyfer gwneud penderfyniadau heb ymgynghori â ffynonellau gwybodaeth sylfaenol, fwy cywir, mwy cyflawn neu fwy amserol. Mae unrhyw ddibyniaeth ar y deunydd ar y wefan hon ar eich risg eich hun.
Gall y wefan hon gynnwys gwybodaeth hanesyddol benodol. Nid yw gwybodaeth hanesyddol, o reidrwydd, yn gyfredol ac fe'i darperir ar gyfer eich cyfeirnod yn unig. Rydy ni yn cadw'r hawl i addasu cynnwys y wefan hon ar unrhyw adeg, ond nid oes rheidrwydd arnom i ddiweddaru unrhyw wybodaeth ar ein gwefan. Rydych yn cytuno mai eich cyfrifoldeb chi yw monitro newidiadau i'n gwefan.

ADRAN 4 - ADDASIADAU I'R GWASANAETH A'R PRISIAU
Gall prisiau ein cynnyrch newid heb rybudd.
Rydyn ni yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg i addasu neu derfynu'r Gwasanaeth (neu unrhyw ran neu gynnwys ohono) heb rybudd ar unrhyw adeg.
Ni fyddwn ni yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw newid, newid pris, ataliad neu ddiffyg parhau'r Gwasanaeth.

ADRAN 5 - CYNHYRCHION NEU WASANAETHAU (os yw'n berthnasol)
Gall rhai cynhyrchion neu wasanaethau bod ar gael ar-lein yn unig drwy'r wefan. Efallai bod swm cyfyngedig ar y cynhyrchion neu'r gwasanaethau hyn ac maent yn ddarostyngedig i ddychwelyd neu gyfnewid yn unig yn ôl ein Polisi Dychwelyd.
Rydyn ni wedi gwneud pob ymdrech i arddangos lliwiau a delweddau ein cynhyrchion sy'n ymddangos yn y siop mor gywir â phosibl. Ni allwn ni warantu y bydd dangosydd eich monitor cyfrifiadur o unrhyw liw yn fanwl gywir.
Rydyn ni yn cadw'r hawl, ond nid oes rheidrwydd arnom, i gyfyngu gwerthiant ein cynnyrch neu Wasanaethau i unrhyw berson, rhanbarth daearyddol neu awdurdodaeth. Efallai y byddwn ni yn arfer yr hawl hon fesul achos. Rydyn ni yn cadw'r hawl i gyfyngu niferoedd ar unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau a gynigiwn ni. Gall pob disgrifiad o gynhyrchion neu brisio cynnyrch newid ar unrhyw adeg heb rybudd, yn ôl ein disgresiwn ni yn unig. Rydyn ni yn cadw'r hawl i derfynu unrhyw gynnyrch ar unrhyw adeg. Mae unrhyw gynnig am unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a wneir ar y wefan hon yn ddi-rym pan waherddir hynny.
Nid ydyn ni yn gwarantu y bydd ansawdd unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau, gwybodaeth, neu ddeunydd arall a brynir neu a gafwyd gennych yn cwrdd â'ch disgwyliadau, nac y bydd unrhyw wallau yn y Gwasanaeth yn cael eu cywiro.

ADRAN 6 - CYWIRDEB BILIO A GWYBODAETH GYFRIF
Rydyn ni yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw archeb rydych chi'n ei osod gyda ni. Efallai y byddwn ni, yn ôl ein hunig ddisgresiwn ni, yn cyfyngu neu'n canslo niferoedd a brynir fesul person, fesul cartref neu fesul archeb. Gall y cyfyngiadau hyn gynnwys archebion a osodir gan neu o dan yr un cyfrif cwsmer, yr un cerdyn credyd, a/neu archebion sy'n defnyddio'r un cyfeiriad bilio a/neu bostio. Os byddwn ni yn newid neu'n canslo archeb, gallwn ni geisio eich hysbysu trwy gysylltu â'r e-bost a/neu'r cyfeiriad bilio/rhif ffôn a ddarparwyd ar yr adeg y gwnaed yr archeb. Rydyn ni yn cadw'r hawl i gyfyngu neu wahardd archebion yr ymddengys, yn ein barn ni yn unig, eu bod yn cael eu gosod gan ddelwyr, ailwerthwyr neu ddosbarthwyr.

Rydych yn cytuno i ddarparu gwybodaeth brynu a chyfrif cyfredol, gyflawn a chywir ar gyfer pob pryniant a wneir yn ein siop. Rydych yn cytuno i ddiweddaru'ch cyfrif a gwybodaeth arall yn brydlon, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a rhifau cardiau credyd a dyddiadau dod i ben, fel y gallwn ni gwblhau eich trafodion a chysylltu â chi yn ôl yr angen.

Am fwy o fanylion, adolygwch ein Polisi Dychwelyd.

ADRAN 7 - OFFER DEWISOL
Efallai y byddwn ni yn rhoi mynediad i chi at offer trydydd parti nad ydyn ni yn monitro nac yn cael unrhyw reolaeth na mewnbwn drostynt.
Rydych yn cydnabod ac yn cytuno ein bod yn darparu mynediad at y fath offer "fel y mae o” ac “fel sydd ar gael” heb unrhyw warantau, cynrychiolaethau nac amodau o unrhyw fath a heb unrhyw ardystiad. Ni fydd gennyn ni unrhyw atebolrwydd o gwbl sy'n deillio o'ch defnydd o neu'n ymwneud ag offer trydydd parti dewisol.
Mae unrhyw ddefnydd gennych chi o offer dewisol a gynigir trwy'r wefan yn gyfan gwbl ar eich risg a'ch disgresiwn eich hun a dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd ac yn cymeradwyo â'r telerau y darperir offer gan y darparwr/darparwyr trydydd parti perthnasol.
Efallai y byddwn ni hefyd, yn y dyfodol, yn cynnig gwasanaethau a/neu nodweddion newydd trwy'r wefan (gan gynnwys rhyddhau offer ac adnoddau newydd). Bydd nodweddion a/neu wasanaethau newydd o'r fath hefyd yn ddarostyngedig i'r Telerau Gwasanaeth hyn.

ADRAN 8 - CYSYLLTIADAU TRYDYDD PARTI
Gall rhai cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau sydd ar gael trwy ein Gwasanaeth gynnwys deunyddiau gan drydydd parti.
Efallai y bydd dolenni trydydd parti ar y wefan hon yn eich cyfeirio at wefannau trydydd parti nad ydynt yn gysylltiedig â ni. Nid ydyn ni yn gyfrifol am archwilio na gwerthuso'r cynnwys na'r cywirdeb ac nid ydyn ni yn gwarantu ac ni fydd gennyn ni unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am unrhyw ddeunyddiau neu wefannau trydydd parti, nac am unrhyw ddeunyddiau, cynhyrchion na gwasanaethau eraill gan drydydd parti.
Nid ydyn ni yn atebol am unrhyw niwed neu iawndal sy'n gysylltiedig â phrynu neu ddefnyddio nwyddau, gwasanaethau, adnoddau, cynnwys, neu unrhyw drafodion eraill a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw wefannau trydydd parti. Adolygwch bolisïau ac arferion y trydydd parti yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu deall cyn i chi gymryd rhan mewn unrhyw drafodion. Dylid cyfeirio cwynion, hawliadau, pryderon, neu gwestiynau ynghylch cynhyrchion trydydd parti at y trydydd parti..

ADRAN 9 - SYLWADAU DEFNYDDWYR, ADBORTH A CHYFLWYNIADAU ERAILL
Os, ar ein cais, byddwch chi yn anfon rhai cyflwyniadau penodol (er enghraifft ceisiadau cystadleuaeth) neu heb gais gennyn ni rydych chi'n anfon syniadau creadigol, awgrymiadau, cynigion, cynlluniau, neu ddeunyddiau eraill, p'un ai ar-lein, trwy e-bost, trwy'r post, neu fel arall (ar y cyd, 'sylwadau'), rydych chi'n cytuno y gallwn ni, ar unrhyw adeg, heb gyfyngiad, golygu, copïo, cyhoeddi, dosbarthu, cyfieithu ac fel arall ddefnyddio unrhyw sylwadau rydych chi'n eu hanfon atom ni. Nid ydyn ni ac ni fyddwn ni o dan unrhyw rwymedigaeth (1) i gynnal unrhyw sylwadau yn gyfrinachol; (2) talu iawndal am unrhyw sylwadau; neu (3) ymateb i unrhyw sylwadau.
Efallai y byddwn ni, ond nid oes gennyn ni unrhyw rwymedigaeth i, fonitro, golygu neu dynnu cynnwys yr ydyn ni yn penderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr yn anghyfreithlon, yn dramgwyddus, yn fygythiol, yn enllibus, yn ddifenwol, yn bornograffig, yn anweddus neu fel arall yn wrthwynebus neu'n torri eiddo deallusol unrhyw barti neu'r Telerau Gwasanaeth hyn.
Rydych yn cytuno na fydd eich sylwadau yn torri unrhyw hawl unrhyw drydydd parti, gan gynnwys hawlfraint, nod masnach, preifatrwydd, personoliaeth neu hawl bersonol neu berchnogol arall. Rydych yn cytuno ymhellach na fydd eich sylwadau yn cynnwys deunydd enllibus neu anghyfreithlon, ymosodol neu anweddus, nac yn cynnwys unrhyw firws cyfrifiadurol neu ddrwgwedd arall a allai effeithio mewn unrhyw ffordd ar weithrediad y Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig. Ni chewch ddefnyddio cyfeiriad e-bost ffug, esgus eich bod yn rhywun heblaw chi eich hun, neu fel arall ein camarwain ni neu drydydd partïon ynghylch tarddiad unrhyw sylwadau. Chi sy'n llwyr gyfrifol am unrhyw sylwadau a wnewch a'u cywirdeb. Nid ydyn ni yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb ac nid ydyn ni yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw sylwadau a bostiwyd gennych chi nac unrhyw drydydd parti.

ADRAN 10 - GWYBODAETH BERSONOL
Mae eich cyflwyniad o wybodaeth bersonol trwy'r siop yn cael ei lywodraethu gan ein Polisi Preifatrwydd.

ADRAN 11 - GWALLAU, ANGHYWIRDEBAU A HEPGORION
O bryd i'w gilydd gall fod gwybodaeth ar ein gwefan neu yn y Gwasanaeth sy'n cynnwys gwallau argraffyddol, anghywirdebau neu hepgorion a allai ymwneud â disgrifiadau cynnyrch, prisio, hyrwyddiadau, cynigion, taliadau cludo cynnyrch, amseroedd cludo ac argaeledd. Rydyn ni yn cadw'r hawl i gywiro unrhyw wallau, anghywirdebau neu hepgorion, ac i newid neu ddiweddaru gwybodaeth neu ganslo archebion os yw unrhyw wybodaeth yn y Gwasanaeth neu ar unrhyw wefan gysylltiedig yn anghywir ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw (gan gynnwys ar ôl i chi gyflwyno'ch archeb).
Nid ydyn ni yn ymrwymo i ddiweddaru, diwygio nac egluro gwybodaeth yn y Gwasanaeth nac ar unrhyw wefan gysylltiedig, gan gynnwys heb gyfyngiad, gwybodaeth brisio, ac eithrio fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ni ddylid cymryd unrhyw ddyddiad diweddaru neu adnewyddu penodedig yn y Gwasanaeth nac ar unrhyw wefan gysylltiedig, i ddangos bod yr holl wybodaeth yn y Gwasanaeth neu ar unrhyw wefan gysylltiedig wedi'i haddasu neu ei diweddaru.

ADRAN 12 - DEFNYDDIAU GWAHARDDEDIG
Yn ogystal â gwaharddiadau eraill fel y nodir yn y Telerau Gwasanaeth, cewch eich gwahardd rhag defnyddio'r wefan neu ei chynnwys: (a) at unrhyw bwrpas anghyfreithlon; (b) i ddeisyfu eraill i gyflawni neu gymryd rhan mewn unrhyw weithredoedd anghyfreithlon; (c) i dorri unrhyw reoliadau, rheolau, deddfau rhyngwladol, taleithiol neu wladwriaethol; (d) i dorri neu droseddu yn erbyn ein hawliau eiddo deallusol neu hawliau eiddo deallusol eraill; (e) i aflonyddu, cam-drin, sarhau, niweidio, difenwi, athrod, dilorni, dychryn, neu wahaniaethu ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ethnigrwydd, hil, oedran, tarddiad cenedlaethol, neu anabledd; (f) i gyflwyno gwybodaeth anwir neu gamarweiniol; (g) i uwchlwytho neu drosglwyddo firysau neu unrhyw fath arall o god maleisus a fydd neu y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd a fydd yn effeithio ar ymarferoldeb neu weithrediad y Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig, gwefannau eraill, neu'r Rhyngrwyd;(h) i gasglu neu olrhain gwybodaeth bersonol eraill; (i) i sbamio, gwe-rwydo, 'pharm', 'pretext', 'spider', 'crawl', neu 'scrape'; (j) at unrhyw bwrpas anweddus neu anfoesol; neu (k) i ymyrryd â neu osgoi nodweddion diogelwch y Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig, gwefannau eraill, neu'r Rhyngrwyd. Rydyn ni yn cadw'r hawl i derfynu'ch defnydd o'r Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig am dorri unrhyw un o'r defnyddiau gwaharddedig.

ADRAN 13 - YMWADIAD GWARANTAU; CYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD
Nid ydyn ni yn gwarantu nac yn cynrychioli y bydd eich defnydd o'n gwasanaeth yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel nac yn rhydd o wallau.
Nid ydyn ni yn gwarantu y bydd y canlyniadau y gellir eu cael o ddefnyddio'r gwasanaeth yn gywir neu'n ddibynadwy.
Rydych yn cytuno y gallwn ni symud y gwasanaeth o bryd i'w gilydd am gyfnodau amhenodol neu ganslo'r gwasanaeth ar unrhyw adeg, heb rybudd i chi.
Rydych yn cytuno'n benodol bod eich defnydd o'r gwasanaeth, neu eich anallu i'w ddefnyddio, ar eich risg chi yn unig. Darperir y gwasanaeth a'r holl gynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir i chi trwy'r gwasanaeth (ac eithrio fel y nodwyd yn benodol gennyn ni) 'fel y mae' ac 'fel sydd ar gael' at eich defnydd, heb unrhyw gynrychiolaeth, gwarantau nac amodau o unrhyw fath, naill ai'n benodol neu ymhlyg, gan gynnwys yr holl warantau ymhlyg neu amodau masnachadwyedd, ansawdd masnachadwy, addasrwydd at ddiben penodol, gwydnwch, teitl, a pheidio â thorri'r gyfraith.
Ni fydd MOSTYN, ein cyfarwyddwyr, swyddogion, gweithwyr, cysylltiedig, asiantau, contractwyr, interniaid, cyflenwyr, darparwyr gwasanaeth na thrwyddedwyr yn atebol am unrhyw anaf, colled, hawliad, nac unrhyw anaf uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, cosbol, arbennig neu arbennig iawndal canlyniadol o unrhyw fath, gan gynnwys, heb gyfyngiad elw a gollwyd, refeniw a gollwyd, arbedion a gollwyd, colli data, costau amnewid, neu unrhyw iawndal tebyg, p'un a ydynt wedi'u seilio mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), atebolrwydd caeth neu fel arall, yn deillio o'ch defnyddio unrhyw un o'r gwasanaeth neu unrhyw gynhyrchion a gaffaelir gan ddefnyddio'r gwasanaeth, neu ar gyfer unrhyw hawliad arall sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â'ch defnydd o'r gwasanaeth neu unrhyw gynnyrch, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn unrhyw gynnwys, neu unrhyw un colled neu ddifrod o unrhyw fath a achoswyd o ganlyniad i ddefnyddio'r gwasanaeth neu unrhyw gynnwys (neu gynnyrch) sy'n cael ei bostio, ei drosglwyddo, neu fel arall ar gael trwy'r gwasanaeth, hyd yn oed os cânt eu hysbysu o'u posibilrwydd. Oherwydd nad yw rhai awdurdodaethau yn caniatáu eithrio neu gyfyngu atebolrwydd am iawndal canlyniadol neu atodol, mewn awdurdodaethau o'r fath, bydd ein hatebolrwydd yn gyfyngedig i'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.

ADRAN 14 - INDEMNIAD
Rydych yn cytuno i indemnio MOSTYN a'n rhiant, is-gwmnïau, cysylltiedigion, partneriaid, swyddogion, cyfarwyddwyr, asiantau, contractwyr, trwyddedwyr, darparwyr gwasanaeth, isgontractwyr, cyflenwyr, interniaid a gweithwyr, yn erbyn unrhyw hawliad neu orchymyn, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol, a wneir gan unrhyw trydydd parti oherwydd neu wedi deillio ohonoch chi'n torri'r Telerau Gwasanaeth hyn neu'r dogfennau y maent yn eu hymgorffori trwy gyfeirio, neu eich tramgwydd o unrhyw gyfraith neu hawliau trydydd parti.

ADRAN 15 - GWAHANADWYEDD
Os penderfynir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Gwasanaeth hyn yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu'n anorfodadwy, bydd darpariaeth o'r fath yn orfodadwy i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, a bernir bod y gyfran na ellir ei gorfodi yn cael ei thorri o'r Telerau Gwasanaeth hyn, ni fydd penderfyniad o'r fath yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw ddarpariaethau eraill sy'n weddill.

ADRAN 16 - TERFYNIAD
Bydd rhwymedigaethau ac atebolrwydd y partïon a gafwyd cyn y dyddiad terfynu yn goroesi terfyniad y cytundeb hwn at bob pwrpas.
Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn yn effeithiol oni bai eich bod chi neu ni yn eu terfynu. Gallwch derfynu’r Telerau Gwasanaeth hyn ar unrhyw adeg trwy ein hysbysu nad ydych am ddefnyddio ein Gwasanaethau mwyach, neu pan fyddwch yn derfyn ddefnyddio ein gwefan.
Os yn ein barn unig rydych yn methu, neu os ydyn ni yn amau eich bod wedi methu, i gydymffurfio ag unrhyw un o delerau neu ddarpariaethau'r Telerau Gwasanaeth hyn, gallwn ni hefyd derfynu'r cytundeb hwn ar unrhyw adeg heb rybudd a byddwch yn parhau i fod yn atebol am yr holl symiau sy'n ddyledus i fyny at a chan gynnwys y dyddiad terfynu; a/neu fe allwn ni wrthod mynediad i'ch Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt).

ADRAN 17 - CYTUNDEB CYFAN
Ni fydd ein methiant i arfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y Telerau Gwasanaeth hyn yn ildiad o'r hawl neu'r ddarpariaeth honno.
Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn ac unrhyw bolisïau neu reolau gweithredu a bostiwyd gennyn ni ar y wefan hon neu mewn perthynas â'r Gwasanaeth yn ffurfio'r cytundeb a'r ddealltwriaeth gyfan rhyngoch chi a ni ac yn llywodraethu eich defnydd o'r Gwasanaeth, gan ddisodli unrhyw gytundebau, cyfathrebiadau a chynigion blaenorol neu gyfoes, boed ar lafar neu'n ysgrifenedig, rhyngoch chi a ni (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw fersiynau blaenorol o'r Telerau Gwasanaeth).
Ni ddehonglir unrhyw amwysedd wrth ddehongli'r Telerau Gwasanaeth hyn yn erbyn y parti drafftio.

ADRAN 18 - CYFRAITH LYWODRAETHOL

ADRAN 19 - NEWIDIADAU I DELERAU GWASANAETH
Gallwch adolygu'r fersiwn fwyaf cyfredol o'r Telerau Gwasanaeth ar unrhyw adeg ar y dudalen hon. Rydyn ni yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i ddiweddaru, newid neu ddisodli unrhyw ran o'r Telerau Gwasanaeth hyn trwy bostio diweddariadau a newidiadau i'n gwefan. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio ein gwefan o bryd i'w gilydd am newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'n gwefan neu'r Gwasanaeth neu fynediad iddyn nhw ar ôl postio unrhyw newidiadau i'r Telerau Gwasanaeth hyn yn golygu derbyn y newidiadau hynny.

ADRAN 20 - GWYBODAETH GYSYLLTU
Dylid anfon cwestiynau am y Telerau Gwasanaeth atom i shop@mostyn.org.